FFEDERASIWN YR HEDDLU
Mae Ffederasiwn yr Heddlu yn gymdeithas staff ar gyfer pob Cwnstabl, Rhingyll ac Arolygydd (gan gynnwys Prif Arolygyddion) yn heddluoedd Cymru a Lloegr.
Crëwyd y Ffederasiwn dan Ddeddf yr Heddlu 1919 a gafodd ei phasio flwyddyn ar ôl streic Undeb Cenedlaethol Swyddogion Heddlu a Charchardai (NUPPO) – undeb nad oedd wedi’i chydnabod.
Nodau ac Amcanion
Ffederasiwn yr Heddlu Cymru a Lloegr yw’r gymdeithas staff sy’n cynrychioli pob un o’r 140,000 swyddog heddlu o reng Cwnstabl, Rhingyll, Arolygydd a Phrif Arolygydd yng Nghymru a Lloegr. Mae arnom ddyletswydd statudol i sicrhau bod barn ein haelodau’n cael ei gyfleu’n gywir i’r llywodraeth, llunwyr barn a rhanddeiliaid allweddol. Er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd rydym yn mesur y gwaith yr ydym yn ei wneud a’r hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni yn erbyn nodau ac amcanion y sefydliad.
Cynrychioli a Chefnogi | Dylanwadu | Trafod |
Amcan:Cynrychioli a hyrwyddo buddiannau a lles ein haelodau, a chefnogi cydweithwyr i gyrraedd y safonau proffesiynol gofynnol. | Amcan:Er mwyn dylanwadu ar lunwyr penderfyniadau mewnol ac allanol ar lefel leol a chenedlaethol ar faterion sy’n effeithio ar ein haelodau a gwasanaeth yr heddlu. | Amcan:Cynnal a gwella amodau gwasanaeth a thâl ein haelodau. |
Rydym yn gwneud hyn drwy:
|
Rydym yn gwneud hyn drwy:
|
Rydym yn gwneud hyn drwy:
|
Y Ffederasiwn Heddiw
Heddiw, Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr yw’r gymdeithas staff sy’n cynrychioli pob un o’r 140.000 swyddog heddlu o reng Cwnstabl, Rhingyll, Arolygydd neu Brif Arolygydd yn heddluoedd Cymru a Lloegr. Rydym yn sicrhau bod barn ein haelodau ar bob agwedd o blismona, gan gynnwys lles ac effeithlonrwydd, yn cael ei gyfleu’n gywir i’r llywodraeth, llunwyr barn a rhanddeiliaid allweddol.
Mae’r Ffederasiwn wedi esblygu o fod yn sefydliad gwirfoddol nad oedd yn cael ei noddi yn ei flynyddoedd cynnar, i fod yn gymdeithas staff fodern a phroffesiynol sy’n ymwneud â phopeth sy’n effeithio ar wasanaeth yr heddlu, gan gynnwys cyflogau, lwfansau, oriau dyletswydd, gwyliau blynyddol a phensiynau, gan sicrhau bod barn yr aelodau’n cael ei glywed.
Ar ran ei aelodau, ymgynghorir â’r Ffederasiwn hefyd pan fydd rheoliadau’r heddlu yn cael eu gosod a phan fydd materion megis hyfforddiant, dyrchafiad, disgyblaeth a safonau proffesiynol yn cael eu trafod.
Mae’r Ffederasiwn wedi’i leoli mewn pencadlys newydd, pwrpasol yn Leatherhead. Mae’n cyflogi tua 80 o bobl, gydag adrannau Cyfathrebu, Adnoddau Dynol, Argraffu, TGCh ac Ymchwil mawr, yn ogystal â staff cefnogi a gweinyddol ar gyfer pob aelod o’r Cyd-bwyllgor Canolog ac is-bwyllgorau.
Ffederasiynau Lleol
Mae gan bob un o’r 43 heddlu yng Nghymru a Lloegr Fwrdd Cangen Cwnstabliaid, Bwrdd Cangen Rhingylliaid a Bwrdd Cangen Arolygyddion, pob un wedi’i ethol gan swyddogion ar y rheng y maent yn ei gynrychioli.
Mae pob bwrdd yn cyfarfod yn rheolaidd i ystyried materion sy’n effeithio ar eu hetholwyr, ond mae llawer o’u gwaith yn cael ei wneud pan fyddant yn cyfarfod gyda’i gilydd gan ffurfio Cyd-Fwrdd Cangen (JBB).
Mae’r Cyd-Fwrdd Cangen yn gweithredu fel corff trafod ac ymgynghori pan yn ymdrin â’r Prif Gwnstabl, uwch swyddogion ac Awdurdod yr Heddlu, gan weithredu fel pwynt cyswllt effeithiol rhwng y swyddogion ac uwch reolwyr. Maent yn delio gyda’r problemau dydd i ddydd y mae swyddogion yn eu hwynebu ac yn gweithio i wella statws gwasanaeth yr heddlu a’i aelodau.